Gwasanaeth Addysg

Ysgol Dewi Sant a Llywydd y Llyfrgell
Disgyblion Ysgol Dewi Sant gyda Syr Deian a Mr Huw Williams, cyn ddisgybl arall Ysgol Dewi sant

Ar Fawrth 8 daeth rhyw 50 disgybl Blwyddyn 6 o Ysgol Dewi Sant, Llanelli i ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr. Roedd yr ymweliad yn rhan o bythefnos o weithgareddau Diwrnod y Llyfr sy’n cael eu hariannu gan Cymal a’u gweithredu fel partneriaeth rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell.

Fel rhan o’r ymweliad roedd pob disgybl yn gweld y llyfr lleiaf yn y byd i gael ei gyhoeddi sy’n 1mm x 1mm o faint, gweld llyfrau anferth sy’n rhan o gasgliad y Llyfrgell, gweld copi gwreiddiol o’r Beibl Cymraeg cyntaf, Beibl William Morgan, ac yn dysgu mwy am rai o’r 6 miliwn o lyfrau sydd yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol. Roedden nhw hefyd yn dysgu am lawysgrifau, a sut roedd llyfrau’n cael eu creu cyn dyfodiad y wasg argraffu, ac yn gweld gweld llawysgrif o’r Oesoedd Canol.

Ar yr un diwrnod roedd cyfarfod o Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell a chafodd y disgyblion gyfle i gyfarfod â Llywydd presennol y Llyfrgell Genedlaethol, Syr Deian Hopkin. Mae Syr Deian yn gyn ddisgybl yn Ysgol Dewi Sant, a bu’n son wrth y disgyblion am ei brofiad o fod yn yr ysgol ar y diwrnod y cafodd ei hagor ar Ddydd Gŵyl Dewi 1947, a’r ffaith mai ef, yn dair oed, oedd y disgybl ifancaf yn yr ysgol i gyd.

Gweithdai dathlu Diwrnod y Llyfr
Llyfr lleiaf
‘Old King Cole’

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu Diwrnod y Llyfr trwy gyflwyno deuddeg o weithdai i ddisgyblion ysgolion cynradd.

Yr ysgolion a wahoddir i ymweld â’r Llyfrgell yw Castell Caereinion, Trefaldwyn, Griffith Jones, Dyffryn Trannon, Llechyfedach, Dewi Sant Llanelli, Llan-non Llanelli, Glantwymyn, Cefn Coch, Pont-ffranc, Llanfair Caereinion a Dyffryn Banw.

Bydd disgyblion yn dysgu am y casgliad anhygoel o lyfrau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol; cânt gyfle i weld y llyfr printiedig lleiaf yn y byd, sy’n mesur 1mm x 1mm;llyfrau anferth, a chopi gwreiddiol o’rBeibl Cymraeg cyntaf un.

Byddant hefyd yn cael gwybod mwy am rai o’r chwe miliwn o lyfrau sy’n ffurfio rhan o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol; byddant yn gweld llawysgrif o’r Oesoedd Canol, ac yn dysgu sut roedd llyfrau’n cael eu cynhyrchu cyn i’r wasg argraffu gael ei dyfeisio.

www.llgc.org.uk

Gwaith yr arlunydd Jac Jones yn cael ei arddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol
Bydd casgliad hyfryd o waith Jac Jones, yr arlunydd a’r awdur llyfrau plant o Fôn ac enillydd diweddar Gwobr Mary Vaughan Jones yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth rhwng 8 Rhagfyr 2012 a  22 Mehefin 2013.

Yn ystod ei yrfa, mae Jac Jones  wedi darlunio dros bedwar cant o lyfrau plant.  Ymhlith y cymeriadau mae wedi eu creu dros y blynyddoedd y mae Mabon a Mabli cymeriadau’r Mudiad Meithrin a Twmff y Gath yn y cylchgrawn plant WCW a’i Ffrindiau. Mae Jac Jones hefyd  yn adnabyddus am greu’r cymeriad Jac y Jwc yn 1977 fel rhan o gyfres bytholwyrdd Sali Mali.

Meddai Nia Lewis, Curadur yr Arddangosfa:

‘Mae cyfraniad Jac Jones dros y blynyddoedd i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru wedi bod yn aruthrol. Mae’n fraint cael arddangos ei waith yn y Llyfrgell Genedlaethol, a gobeithiwn y bydd llawer o bobl yn manteisio ar y cyfle i weld detholiad o’r gwaith arbennig hwn drwy ymweld â’r arddangosfa.’

Yn ogystal â darlunio llyfrau gan  awduron eraill, mae Jac Jones yn awdur llyfrau plant ac wedi cyhoeddi nifer o lyfrau  yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae eisoes wedi ennill gwobr Tir na n-Og dair gwaith am ei waith yn darlunio Ben y Garddwr a Storïau Eraill yn 1989, Lleuad yn Olau yn 1990, a Stori Branwen yn 1998.

Er bod pob llyfr mae wedi gweithio arno wedi bod yn bwysig iddo, mae cyfrannu at ambell deitl mwy uchelgeisiol wedi bod yn brofiad arbennig iawn. Ymhlith y teitlau yma mae Chwedlau Grimm, addasiad Dyddgu Owen, a Drama’r Nadolig gan Gwyn Thomas. Enillodd darn o’r gwaith celf a greodd ar gyfer Lleuad yn Olau le yn Premi de Catalonia, cyfeirlyfr o waith arlunwyr plant y byd.

Derbyniodd Jac Jones Dlws Mary Vaughan Jones 2012. Cyflwynir y tlws arbennig hwn bob tair blynedd i berson a wnaeth gyfraniad nodedig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd.

Meddai’r arlunydd Jac Jones:

‘Mae hi’n fraint ac anrhydedd i mi bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi trefnu arddangosfa o fy ngwaith. Ble gwell i arddangos fy ngwaith nag yn un o’r sefydliadau’r hynny sydd yn gonglfaen i  safon ac sy’n hyrwyddo prosiectau treftadaeth  yng Nghymru.’

Mae’r arddangosfa wedi ei lleoli yn ardal yr Hafan o’r Llyfrgell, sy’n cael ei defnyddio yn bennaf gan y Gwasanaeth Addysg.

Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2002 a’i brif ddyletswydd yw cyflwyno’r Llyfrgell a’r casgliad i ymwelwyr o bob oedran sy’n rhan o’r gymuned ddysgu ffurfiol. Gwnant hyn drwy gynnig mynediad at y casgliad a dehongliad o eitemau i ddisgyblion ysgol, myfyrwyr, dysgwyr gydol oes a theuluoedd sy’n addysgu yn y cartref, ac adnoddau dysgu i rieni, athrawon a darlithwyr.

Gwybodaeth Bellach:

Cysylltwch a’r Gwasanaeth Addysg 01970 632 800

O Hyddgen i Harvard: Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
Disgyblion Ysgol Dyffryn Taf yn defnyddio casgliad y Llyfrgell i ddysgu mwy am Ddull Cyfeirio Harvard

Roedd diwedd y flwyddyn academaidd yn gyfnod cyffrous a phrysur i Wasanaeth Addysg y Llyfrgell wrth i ni groesawu cannoedd o bobl ifanc o bob rhan o Gymru i’r Llyfrgell fel rhan o’u gwaith ar Gymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Roedd y pynciau gyflwynwyd i’r ymwelwyr yn amrywio o Lywodraethu Cymru i Ddull Cyfeirio Harvard, a’r cyfan yn canolbwyntio ar gasgliad enfawr y Llyfrgell o adnoddau sy’n addas i fyfyrwyr sy’n astudio Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Trefnwyd rhai o’r gweithgareddau mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Aberystwyth, tra bod rhai ysgolion wedi ymweld â’r Llyfrgell yn unig.

Mae gan Wasanaeth Addysg y Llyfrgell restr sy’n tyfu o weithdai wedi eu paratoi’n benodol ar gyfer y Fagloriaeth. Gallwch gysylltu â ni am fwy o fanylion.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Dilyn y Fflam
Rhwng Ebrill 16eg a Mai 4ydd, 2012 bydd Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig gweithdai yn rhad ac am ddim i ysgolion ar arddangosfa Dilyn y Fflam.

Bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i weld eitemau cofiadwy sy’n ymwneud â’r Gemau, gan gynnwys torchau Olympaidd, medalau Olympaidd a Pharalympaidd, cadair rasio Tanni Grey Thompson a llawer mwy!

Mae’r arddangosfa’n tywys ymwelwyr ar daith hynod, o sefydlu’r Gemau Olympaidd yng ngwlad Groeg a thranc y gemau dros fil o flynyddoedd yn ddiweddarach, hyd at eu hail-sefydlu yn Athen yn 1896 a’r penodau arwrol a thrasig yn hanes y gêmau byth ers hynny.

Bydd y gweithdy dwy awr i ymwelwyr ifanc yn cynnwys taith o amgylch yr arddangosfa a chyfle i weld:

* Ffilm newydd gyda thrac sain cerddorol wedi ei chyfansoddi’n arbennig gan y cyfansoddwr o Ystradgynlais, Andrew Griffiths.

* Casgliad arbennig o wrthrychau sy’n ymwneud ag Olympiaid a Pharalympiaid o Gymru

* Casgliad o ffotograffau sydd heb eu gweld o’r blaen o Olympiaid a Pharalympiaid o Gymru.

* Pigion o dros 100 o gyfweliadau gyda rhai o brif athletwyr Cymru yn cofnodi eu hatgofion personol.

Mae rhai sesiynau heb eu llenwi ar gyfer y gweithdai addysg. Cynhelir gweithdai yr wythnos gyntaf yn y Saesneg, a gweithdai’r bythefnos wedyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion, neu i archebu gweithdy’n rhad ac am ddim.

Jerry The Tyke
Yn ystod wythnos Mawrth 19-23 bydd ysgolion gwahanol yn dod i’r Llyfrgell Genedlaethol i weld Jerry the Troublesome Tyke – yr unig gartwn o’i fath i gael ei greu yng Nghymru yn ei gyfnod. Cafodd cartwnau Jerry eu dangos mewn sinemau o 1925 i 1927.

Gwelwn anturiaethau’r ci bach wrth iddo fod yn rhan o bob math o hynt a helynt! Gan nad oedd cerddoriaeth na siarad yn y cartwnau gwreiddiol, bydd cerddor preswyl Arad Goch, Simon Lovatt, yn creu cerddoriaeth newydd unigryw i gyd-fynd â helyntion Jerry.

Mae’r ymweliadau’n cael eu trefnu fel rhan o gynllun ar y cyd gan Gwmni Theatr Arad Goch, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru a Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Hamddena
Yn ystod y mis olaf gwelwyd bron i 500 o ddisgyblion ysgolion cynradd Ceredigion a chanolbarth Cymru yn troedio Oriel Gregynog y Llyfrgell Genedlaethol tra’n ymweld ag arddangosfa Hamddena. Mae’r arddangosfa yn rhedeg tan y 3ydd o Fawrth, ac ynddi mae casgliadau amrywiol y Llyfrgell yn dangos  sut y mae pobl Cymru wedi treulio eu hamser sbâr ar hyd y blynyddoedd. O bysgota i drydar ar ‘Twitter’, o wyddbwyll i ralio ceir, gwelir amrywiaeth o weithgareddau wedi eu cofnodi mewn geiriau a lluniau.

Mae’r eitemau sy’n cael eu harddangos yn cynnwys darluniau, posteri, ffilmiau, ffotograffau, llawysgrifau, cofysgrifau ac archifau, yn ogystal â deunyddiau printiedig – oll yn cyfeirio at yr hyn mae pobl yn gwneud, neu’n arfer gwneud, yn eu hamser hamdden.

Yn y gweithdai a gynhaliwyd i gydredeg â’r arddangosfa, cymharwyd y ffyrdd rydym yn hamddena heddiw gydag arferion ers talwm,  a bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ymchwilio. Yna rhoddwyd cyfle iddynt grwydro o gwmpas yr oriel yn edrych am atebion i’r cwestiynau a osodwyd yn eu llyfrynnau gwaith.

Ar ddydd Iau, Chwefror 9fed, cafwyd yr ymweliad ysgol olaf, ac yn y llun isod gwelir disgyblion ysgolion Trefilan, Cilcennin a Dihewyd yn cymryd egwyl o’r gweithgareddau er mwyn cael ffotograff o’r grŵp olaf, ac  i gofnodi eu hymweliad â’r Llyfrgell.

Ysgol Nantgaredig a’r Arglwydd Rhys
Y cyfarwyddwr yn mynd drwy'r sgript gyda'r actorion

Cafodd yr Ystafell Addysg ei defnyddio fel lleoliad ffilm ddydd Mawrth wrth i Ysgol Nantgaredig ymweld â’r Llyfrgell. Mae’r ysgol wrthi’n creu ffilm fer dan arweiniad Lleucu Meinir o gwmni Dogfen ar hanes Yr Arglwydd Rhys.

Prif nod yr ymweliad â’r Llyfrgell oedd ffilmio golygfeydd yn defnyddio replica o Lyfr Gwyn Rhydderch – llawysgrif gafodd ei chreu yn Ystrad Fflur. Yr Arglwydd Rhys oedd noddwr pennaf Ystrad Fflur, ac o dan ei nawdd y tyfodd y fynachlog yn sefydliad pwerus.

Erbyn y 14eg ganrif pan grewyd y Llyfr Gwyn, Ystrad Fflur oedd un o brif ganolfannau dysg Cymru, ac yn ffilm Ysgol Nantgaredig mae dwy o ferched Rhys yn teithio drwy amser gan ryfeddu ar effeithiau tymor hir gweithredoedd eu tad. Disgyblion yr ysgol sy’n sgriptio, cyfarwyddo, rheoli lleoliadau, recordio sain, ffilmio ac actio yn y ffilm fydd yn y pen draw yn rhan o brosiect ehangach Stori Cymru.

Criw ffilmio Ysgol Nantgaredig

Criw ffilmio Ysgol Nantgaredig

Disgyblion Ysgol Penweddig yn Arddangosfa Preswyliad 2011
Ar ddydd Gwener, Ionawr 13eg, daeth criw o ddisgyblion Blwyddyn 10 Ysgol Penweddig i’r Llyfrgell Genedlaethol i weld arddangosfa Artist Preswyl 2011, fel rhan o’u gwaith cwrs celf TGAU.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith llaw a grëwyd gan ddisgyblion Ysgol Dafydd Llwyd, Drenewydd, a disgyblion Ysgol Clywedog, Wrecsam, yn ystod preswyliad a fu’n rhedeg rhwng Chwefror a Thachwedd 2011. Noddwyd y cynllun ar y cyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac arweinwyd y gwaith gan Luned Rhys Parri, artist o’r Groeslon ger Caernarfon sydd yn aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig. Roedd disgyblion Penweddig wedi bod yn dysgu am Luned yn eu dosbarthiadau celf, ac felly roedd hwn yn gyfle gwych iddynt gyfarwyddo â’i gwaith hi.

Prif ffocws yr hyn a welir yn yr arddangosfa yw un o gasgliadau amlycaf y Llyfrgell Genedlaethol, casgliad ffotograffau  y newyddiadurwr Geoff Charles.  Tynnodd luniau ar hyd a lled Cymru o’r 1930au hyd at ddiwedd y 1970au, yn portreadu pobl a’u bywydau yn ogystal â chofnodi rhai o ddigwyddiadau pwysicaf y wlad yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae’r themâu yn cynnwys bywyd yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd, boddi Capel Celyn yng nghwm Tryweryn er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer Dinas Lerpwl, a phrotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Bont Trefechan, Aberystwyth yn 1963. Mae’r casgliad yn cynnwys dros 120,000 o ddelweddau ffotograffig, a bellach mae modd gweld y mwyafrif sylweddol ohonynt ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Trwy ddefnyddio’r wefan a chopïau caled o’r ffotograffau, bu Luned Rhys Parri yn cyflwyno’r casgliad i ddisgyblion y preswyliad mewn gweithdai yn yr ysgolion ac yn y Llyfrgell, ac o ganlyniad i’r sesiynau hyn cafwyd y  gwaith 2D a 3D a welir ar waliau Ystafell Hafan.

Yn yr arddangosfa mae nifer o weithiau gan Luned Rhys Parri wedi eu hongian ochr yn ochr â gwaith disgyblion Ysgol Dafydd Llwyd ac Ysgol Clywedog, a byddan nhw i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol tan ddiwedd Ebrill.

Yn ystod eu hymweliad bu disgyblion Penweddig yn braslunio eu hoff ddarnau fel rhan o’u hastudiaethau celf.

Gweithdy Crochenwaith a Serameg: Diwrnod Agored LLGC
Alex Allpress

Fel rhan o Ddiwrnod Agored Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Ionawr 28 bydd y crochenydd ifanc Alex Allpress yn cynnal gweithdy yn rhad ac ddim yn ystafelloedd addysg y Llyfrgell. Bydd pobl ifanc sy’n rhan o’r gweithdy hefyd yn cael y cyfle i ymuno gydag aelodau eraill o’u teuluoedd i fynd ar daith i’r teulu yn ystod y prynhawn.

* Gweithdy Crochenwaith a Serameg rhad ac am ddim gydag Alex Allpress

* Ionawr 28, 2012: Ystafelloedd Addysg LLGC

* Ar gyfer plant Blynyddoedd 5 & 6

* Lle i 20 yn unig

* 11.00-13.30, gydag egwyl o hanner awr ar gyfer cinio

* I’w ddilyn gan daith i’r teulu o amgylch yr adeilad: 13.40-14.30

Gallwch archebu lle drwy nawr drwy gysylltu â Siop Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 01970 632548.