

Llyfr lleiaf
‘Old King Cole’
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu Diwrnod y Llyfr trwy gyflwyno deuddeg o weithdai i ddisgyblion ysgolion cynradd.
Yr ysgolion a wahoddir i ymweld â’r Llyfrgell yw Castell Caereinion, Trefaldwyn, Griffith Jones, Dyffryn Trannon, Llechyfedach, Dewi Sant Llanelli, Llan-non Llanelli, Glantwymyn, Cefn Coch, Pont-ffranc, Llanfair Caereinion a Dyffryn Banw.
Bydd disgyblion yn dysgu am y casgliad anhygoel o lyfrau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol; cânt gyfle i weld y llyfr printiedig lleiaf yn y byd, sy’n mesur 1mm x 1mm;llyfrau anferth, a chopi gwreiddiol o’rBeibl Cymraeg cyntaf un.
Byddant hefyd yn cael gwybod mwy am rai o’r chwe miliwn o lyfrau sy’n ffurfio rhan o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol; byddant yn gweld llawysgrif o’r Oesoedd Canol, ac yn dysgu sut roedd llyfrau’n cael eu cynhyrchu cyn i’r wasg argraffu gael ei dyfeisio.
